Severe Weather

It is very rare that severe weather affects our ability to operate as a school. However, in extreme cases, it may be necessary to close the school to safeguard pupils and staff. In these circumstances, the school may opt to take any of the following decisions. 

Close the school before pupils attend for morning registration

In the event of severe weather, we assess the conditions on the school site from 7.00am. We also liaise with transport providers to assess traffic and road conditions on routes into school, and consider the Health and Safety of pupils walking to school. We aim to make this decision as soon as possible so that parents/carers can make suitable alternative arrangements.

If the decision is made to close the school, this is published on our school X (formerly Twitter) feed which is also repeated on the homepage of the school website. Please try and avoid telephoning the school to see if we are open, as the switchboard becomes inaccessible due to the sheer volume of calls.

The decision is communicated to Neath Port Talbot local authority, who will update the relevant page on their website. We also communicate with local radio (The Wave) who will announce the closure on air. 

Delay the school’s opening until later in the morning

In some cases, it may be possible to delay the school’s opening. This isn’t always practical due to the high proportion of pupils who use school transport.

Operate the school for some year groups

If we decide that it is impossible to safeguard all pupils on site, we may decide to open for some year groups. This may be prudent when pupils in Year 10 and Year 11 are taking external examinations, for example. 

Close the school during the day

We try and avoid this course of action because of the issues it creates for parents/carers to collect and supervise their children. However, if weather deteriorates severely during the day, the decision may be taken to close the school early. In most cases, this is dictated by transport providers as they would be unable to get pupils home if delayed any later. If the decision is taken to close, a text message is sent to all parents, so it is essential we have your correct mobile number stored on our systems. In emergencies, provision can be made in school to ensure pupils can stay until there is appropriate supervision at home. 

Tywydd Garw

Achosion prin iawn yw’r rheini lle mae tywydd eithafol yn effeithio ar ein gallu i weithredu fel ysgol. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, mae’n bosib y bydd yn rhaid cau’r ysgol er mwyn diogelu disgyblion a staff. Yn y fath amgylchiadau gall yr ysgol ddewis cymryd un o’r camau canlynol.

Cau yr ysgol cyn i ddisgyblion fynychu cofrestru boreol.

Mewn achos o dywydd eithafol rydym yn asesu cyflwr safle’r ysgol am 7.00 a.m. Rydym hefyd yn cysylltu â’r darparwyr trafnidiaeth i asesu trafnidiaeth a chyflwr heolydd i’r ysgol gan, ar yr un pryd, ystyried iechyd a diogelwch ein disgyblion sy’n cerdded i’r ysgol. Bwriadwn wneud y penderfyniad cyn gynted â phosib fel bod rhieni/gofalwyr yn gallu gwneud trefniadau amgen.

Os gwneir penderfyniad i gau’r ysgol, cyhoeddir hynny ar ein gwefan Twitter ac ailadroddir hyn ar dudalen gartref gwefan yr ysgol. Ceisiwch osgoi ffonio’r ysgol i gael gwybodaeth gan nad yw’r switsfwrdd yn gallu derbyn yr holl alwadau.

Trosglwyddir gwybodaeth i awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot a fydd yn ei dro yn diweddaru’r dudalen briodol ar ei wefan. Rydym hefyd yn hysbysu’r radio lleol (Y Wave) a fydd yn gwneud cyhoeddiad ar yr awyr.

Gohirio agor yr ysgol tan yn hwyrach yn y bore

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd yn rhaid gohirio agor yr ysgol. Nid yw hyn bob amser yn ymarferol oherwydd y canran uchel o ddisgyblion sy’n defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus.

Agor yr ysgol ar gyfer rhai blynyddoedd yn unig

Os ydym yn penderfynu ei bod yn amhosib sicrhau diogelwch pob disgybl ar y safle, gallem benderfynu agor ar gyfer rhai blynyddoedd ysgol yn unig. Gallai hyn fod yn bwysig i ddisgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 11 sy’n sefyll arholiadau allanol er enghraifft.

Cau yr ysgol yn ystod y dydd

Ceisiwn osgoi gwneud hyn oherwydd yr holl anawsterau mae’n ei greu i rieni/gofalwyr i gasglu ac arolygu eu plant. Fodd bynnag, os yw’r tywydd yn gwaethygu’n sylweddol yn ystod y dydd, gellir penderfynu cau yr ysgol yn gynnar. Yn y rhan fwyaf o achosion, y darparwyr trafnidiaeth sy’n penderfynu gan na fyddai modd iddynt gael y disgyblion adref yn hwyrach. Os gwneir penderfyniad i gau, anfonir neges destun at bob rhiant, felly mae’n angenrheidiol bod gennym eich rhif ffôn symudol cywir ar ein sustemau. Mewn argyfyngau, gwneir darpariaeth o fewn yr ysgol i sicrhau bod disgyblion yn gallu aros tan bod goruchwyliaeth addas iddynt yn y cartref.

To The Top
I'r Top